Gwirfoddolwch

Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn Theatr y Congress, a hebddyn nhw ni allem roi cystal gwasanaeth.

Mae angen pobl arnom ni gyda natur ddymunol, brwdfrydedd, ymrwymiad a pharodrwydd i ddilyn cyfarwyddiadau, gan mai ein bwriad yw darparu awyrgylch broffesiynol ond cyfeillgar i’r gymuned.

Fe fyddem yn hoffi i chi ein helpu i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad cadarnhaol a phleserus o’r dechrau hyd y diwedd

Mae ein gwirfoddolwyr yn helpu gyda’r prif gyfrifoldebau canlynol;
Blaen y tŷ / Bar / Losin a Choffi

Gewch chi benderfynu faint o amser i’w rhoi.

Felly, os oes gyda chi ychydig oriau i’w sbario ac os hoffech ymuno â ni, yna mynnwch sgwrs gydag aelod o’r staff neu cwblhewch y ffurflen amgaeedig.